Tyfu Pobl - Cefnogi Cymunedau i Dyfu

 

 

 

Mae rhaglen newydd i helpu pobl i sefydlu a rheoli cynlluniau tyfu yn eu cymunedau wedi cael ei lansio ledled Cymru gan Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol (FCFCG).

 

Enw’r rhaglen tair blynedd yw Tyfu Pobl, a bydd yn cefnogi amrywiaeth o gynlluniau, gan gynnwys ffermydd dinesig, rhandiroedd, gerddi cymunedol, perllannau cymunedol a chynlluniau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned. Mae’r rhaglen yn deillio o ganlyniad uniongyrchol i’r diddordeb cynyddol mewn tyfu bwyd yn gymunedol a chreu meysydd glas naturiol.

 

Caiff y rhaglen ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn sicrhau na fydd grwpiau cymunedol yn gweithio ar eu pennau eu hunain – bydd pobl leol yn cael eu hannog i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd, fel y bydd cysylltiadau’n cael eu creu drwy Gymru gyfan rhwng cynlluniau tyfu newydd a’r rhai sydd eisoes wedi’u sefydlu.

 

Mae tîm datblygu newydd eisoes wedi’i roi at ei gilydd, a cheir swyddfeydd rhanbarthol yng Nghaerdydd, yn Sir Benfro, yn y Drenewydd ac ym Mangor.  Yn y cyfamser, bydd Cydlynydd Menter a Chyllido Cymunedol yn helpu i oresgyn effeithiau andwyol yr hinsawdd gyllido bresennol drwy sicrhau mynediad at ffynonellau cyllid, a gweithio gyda grwpiau i’w helpu i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol, ac yn llai dibynnol ar grantiau.  

 

Dywedodd Katie Jones, Rheolwr Datblygu Cymru FCFCG, ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r rhaglen, wrth i’r diddordeb mewn tyfu cymunedol yng Nghymru gynyddu fwyfwy o hyd: “Mae nifer y prosiectau cymunedol sy’n ymwneud â ffermio a garddio wedi cynyddu 900 y cant dros y blynyddoedd diwethaf, sy’n anhygoel. Mae hynny’n gynnydd enfawr, felly mae’r rhaglen Tyfu Pobl wedi’i datblygu yn seiliedig ar anghenion y prosiectau hyn – rydym am eu darparu â’r wybodaeth gywir a’r arbenigedd priodol er mwyn rhoi cyfle iddynt reoli eu cynlluniau mewn modd sydd mor gynaliadwy â phosib.

 

“Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn rhoi cyfle i nifer o grwpiau ffynnu, ac yn ei dro, bydd hynny yn rhoi cyfle i fwy o bobl Cymru ailgysylltu gyda bwyd, gyda natur a chyda’u cymunedau.”

 

O ganlyniad i’r rhaglen, bydd grwpiau tyfu lleol yn cael budd o gefnogaeth a chyngor gan y tîm datblygu, yn ogystal â chan weithwyr maes o grwpiau sydd eisoes yn bodoli, a mentoriaid i helpu gyda rhandiroedd.  Bydd cynllun bwrsariaethau teithio ar gael hefyd, er mwyn i grwpiau allu ymweld â safleoedd ei gilydd, a mynd i gyfarfodydd rhanbarthol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i dyfwyr a garddwyr lleol gyfarfod, dysgu sgiliau newydd a chyfnewid syniadau ac ysbrydoliaeth.

 

 

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Katie Jones

Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol

Ffôn: 0292 0225942

E-bost: katie@farmgarden.org.uk neu wales@farmgarden.org.uk