Elw yn sgil codi tâl am fagiau

Ers 1 Hydref 2011, mae’n ofynnol i bob manwerthwr yng Nghymru godi o leiaf 5 ceiniog am bob bag siopa untro.*  Mae Llywodraeth Cymru eisiau i’r arian a godir gael ei roi i achosion da, rhai amgylcheddol yn ddelfrydol, yma yng Nghymru. Os ydych chi’n achos da – gallai hwn fod yn unrhyw beth o ysgol, grŵp cymunedol lleol bach i elusen genedlaethol – yna efallai y byddwch am gysylltu â busnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i weld a allant roi unrhyw ran o’r arian i chi.  Gellir gweld enghraifft o lythyr y gallwch ei lwytho i lawr fan hyn.

* Mae rhai eithriadau, gweler www.carrierbagchargewales.gov.uk i gael y manylion llawn.