Grwp Llywio Amgylchedd Cymru

Rôl Grwp Llywio Amgylchedd Cymru yw penderfynu cyfeiriad, polisïau a blaenoriaethau'r fenter. Hysbysir ei waith gan holl agweddon weithgareddau Amgylchedd Cymru a thrwy'r wybodaeth o'r cyd-destun eangach y mae'r fenter yn gweithio o'i fewn

Yn arbennig, mae aelodau'r Grwp Llywio yn gyfrifol am:

  • Adnabod ardaloedd o bryder neu ddiddordeb lle y gall gweithgaredd gan y bartneriaeth gynhyrchi buddion i'r amgylchedd, cymunedau lleol neu'r sector wirfoddol eangach;
  • Datblygu polisi a chyfarwyddo datblygiad gweithredol y fenter i gwrdd â nodau amgylcheddol a datblygiad cynaliadwy;
  • Sicrhau bod cyllid grant yn cael ei ddosbarthu gyda thryloywder a thegwch a delio gydag unrhyw achosion o grwpyn;
  • Gwerthuso gwaith y fenter i sicrhau ei fod yn cadw'n berthnasol i'w amcanion ac i waith ei bartneriaid, y sector amgylcheddol eangach a Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Mae tasgau eraill yn cynnwys:

  • Ffurfio cynllun strategaethol tair blynedd y fenter;
  • Adolygu a diweddaru'r cynllun gwaith blynyddol yn seiliedig ar y cynllun strategaethol;
  • Monitro datblygiad y fenter yn erbyn targedau blynyddol;
  • Cynghori'r partner gweinyddol ar systemau a gweithdrefnau;
  • Cydlynu'r hyrwyddiad o'r fenter i gynulleidfaoedd allweddol.

Mae'r Grwp Llywio yn cyfarfod o leiaf tair gwaith y flwyddyn i drafod y cyfeiriad cyffredinol, strategaeth a chynnydd Amgylchedd Cymru.