Pwyllgor Grantiau
Mae WCVA, fel partner gweinyddol Amgylchedd Cymru, yn gyfreithiol gyfrifol am weithredu system grantiau effeithiol. Rhan allweddol o'r broses hon yw Panel Cynghori ar Grantiau Amgylchedd Cymru.
Mae'r Panel Cynghori ar Grantiau yn cynnwys gwirfoddolwyr a recriwtiwyd am eu sgiliau, profiad neu wybodaeth arbenigol. Rydym yn recriwtio drwy gymysgedd o hysbysebu agored a gwahoddiad i helpu i sicrhau gwasgariad eang o wybodaeth, sgiliau a chynrychiolaeth ddaearyddol. Mae cyfarfodydd y Panel yn cylchdroi o gwmpas Cymru ac yn aml yn cyd-ddigwydd ag ymweliadau â phrosiectau gan Amgylchedd Cymru fel bod yr aelodau'n cael cyfle i weld effaith grantiau Amgylchedd Cymru ar y ddaear.
Fel y byddid yn ei ddisgwyl, mae gan rai aelodau o'r Panel efallai gysylltiad â grwpiau sy'n ymgeisio am gyllid. Rhaid i aelodau lenwi Cofrestr Buddiannau cyn ymuno â'r Panel a rhaid datgan pob budd cyn dechrau pob cyfarfod. Os yw aelod wedi datgan budd yng nghyswllt grp arbennig a wnaeth gais am grant, rhaid i'r aelod hwnnw neu honno adael yr ystafell tra bo'r Panel yn trafod y cais, a dychwelyd ond pan fydd penderfyniad wedi'i wneud.
Mae copi o'r gofrestr buddiannau ar gael oddi wrth WCVA.

