Cadwch Gymru'n Daclus
Swyddog Datblygu Amgylchedd Cymru: Gareth Davies
Cadwch Gymru'n Daclus, 33-35 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd CF11 9HBFfôn: 029 2072 6967
Gweledigaeth Cadwch Gymru'n Daclus yw ‘Cymru Lân, Ddiogel a Thaclus'.
Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn credu bod modd cael ‘Cymru lân a thaclus' drwy newid agweddau pobl fel nad ydynt yn cyfrannu at weithgareddau sy'n cael effaith negyddol ar eu hamgylchedd lleol. Mae nifer o weithgareddau'n effeithio ar ansawdd yr amgylchedd lleol ac, i ddechrau, mae Cadwch Gymru'n Daclus yn canolbwyntio ar faterion fel sbwriel, tipio anghyfreithlon a baw cwn. Fodd bynnag, mae Cadwch Gymru'n Daclus yn cydnabod bod problemau eraill fel graffiti, codi posteri ymhobman a dympio cerbydau hefyd yn amharu ar ansawdd yr amgylchedd lleol.

