Partneriaid

Mae Amgylchedd Cymru yn bartneriaeth o sefydliadau sector gwirfoddol. BTCV, Canolfan Gorllewin Cymru Cylch, Groundwork Wales, Cadwch Gymru’n Daclus, WCVA, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolfan Eco Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru yw’r rhain.

Mae pob sefydliad yn cefnogi Swyddog Datblygu Amgylchedd Cymru, sy’n cyfrannu sgiliau penodol a gwybodaeth i dîm Amgylchedd Cymru. Ynghyd â chefnogi prosiectau, mae’r Swyddogion Datblygu yn cynnal cysylltiadau rhwng y sefydliadau partner ac yn hyrwyddo a rhannu arbenigedd ac ymarfer da.

Mae WCVA yn cynnal ochr gweinyddol y fenter, sydd yn golygu ei fod yn darparu’r fframwaith gweinyddol ac ariannol y mae Amgylchedd Cymru yn gweithio o’i fewn. Mae Cydlynydd, Swyddog Cyfathrebu a’r Swyddog Gweinyddol wedi eu lleoli yma.