Amcanion

Mae gan Amgylchedd Cymru bedwar amcan craidd:

1. I gyflawni gwelliannau cynaliadwy i amgylchedd Cymru trwy brosiectau ymarferol:

Er enghraifft drwy:

  • rheoli neu greu gwlypdir, coedwig, porfeydd neu gynefinoedd arfordirol, neu gynefinoedd arall o fewn yr amgylchedd adeiledig;
  • rheoli llygredd a rheolaeth o'r aer, dwr egni a deunyddiau;
  • gwelliannau i'r amgylchedd gweledol, tirluniau a lleihad sbwriel;
  • cynlluniau yn creu neu'n gwella mynediad a thrafnidiaeth, llwybrau troed, llwybrau beicio, mynediad i safleoedd a gwarchodfeydd i'r rhai hynny ag anghenion arbennig, a rhaglennu trafnidiaeth gymunedol.

2. Gwell dealltwriaeth o ddatblygiad cynaliadwy a'r amgylchedd:

Er enghraifft drwy:

  • dehongli, darparu gwybodaeth neu gyngor, addysg a chodi ymwybyddiaeth, a lledaeni gyfranogiad cymunedol.


3. I helpu i greu mentrau amgylcheddol newydd sydd hefyd yn caniatâi cymunedau a sefydliadau gwirfoddol i gyfrannu at eu hanghenion cymdeithasol ac economaidd:

Er enghraifft trwy:

  • mentrau yn hyrwyddo neu gynhyrchu cynhyrchion a gwasanaethau sydd yn gysylltiedig gyda'r amgylchedd, er enghraifft Sundance Renewables
  • mentrau amgylcheddol a busnesau sydd yn caniatáu cymunedau a sefydliadau gwirfoddol i gynhyrchu incwm a chyfrannu at economi gynaliadwy, er enghraifft Marchnad Gymunedol Glan Afon, New Life Recycling Project;
  • mentrau yn arddangos modelau amgen ac enghreifftiau o fyw'n gynaliadwy, er enghraifft, Coed Hills Rural Art Space, Menter y Felin Uchaf.


4. I gefnogi staff a hyfforddi staff a gwirfoddolwyr sydd yn ymwneud gyda'r gweithgareddau yma.

Mae ein Grantiau Cymorth Hyfforddiant yn gallu helpu i ariannu hyfforddiant mewn unrhyw ardal a fydd yn cryfhau gallu'r staff neu wirfoddolwyr i gyflawni gweithgareddau prosiectau cofrestredig;

Er enghraifft trwy:

  • Hyfforddiant TG, cyllidebu neu farchnata;
  • Recriwtiaid gwirfoddolwyr neu reolaeth;
  • Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch;
  • Hyfforddiant ymarferol sy'n berthnasol i'r prosiect cofrestredig er enghraifft, y defnydd o beiriannau neu gyfarpar penodol, technegau cadwraeth benodol, byw effaith isel neu hyfforddiant ôl troed ecolegol, adeiladu ecolegol ayb 

Mae'r enghreifftiau o weithgareddau prosiect yma yn cael eu rhoi ar gyfer dibenion darluniadol yn unig. Mae Amgylchedd Cymru yn annog agwedd arloesol tuag at gwrdd ein hamcanion ac mae'n croesawi syniadau newydd ar sut i gyflawni ei amcanion amgylcheddol a cynaliadwy yn y dull gorau.