Grantiau Rheoli

Gofynion Grantiau Rheoli
• Rhaid i brosiectau gael eu cofrestru ag Amgylchedd Cymru.
• Dim ond ar gyfer swyddi newydd y darperir cyllid. Ni all Amgylchedd Cymru roi grant ar gyfer swydd lle mae'r cyllid presennol ar ei chyfer yn dod i ben, ac eithrio i geisiadau adnewyddu o dan ein rhaglen.
• Dylai o leiaf 25% o gost gweithredu'r swydd ddod o ffynonellau nad ydynt yn deillio o Lywodraeth Cynulliad Cymru;
• Rhaid i fudiadau sy'n ymgeisio am arian grant fod yn gyrff cyfansoddiadol, elusennol neu ddi-elw.
• Lle mae'r cais yn un ar gyfer prosiect ar safle, rhaid darparu mynediad i'r cyhoedd i'r safle hwnnw.
• Dylai pob prosiect nodi manteision clir i'r amgylchedd, a dangos datblygu cynaliadwy ar waith.

Ffactorau o Blaid Cais am Grant Rheoli
Bydd gan eich cais am grant rheoli well siawns o lwyddo os yw'n gallu dangos:
• Ei fod yn cynnig ateb arloesol a chynaliadwy i broblemau presennol. (Ystyrir bod atebion cynaliadwy yn rhai sydd o fudd i'r economi, i'r amgylchedd ac i gymdeithas)
• Elfen gref o fewnbwn gwirfoddol.
• Partneriaethau rhwng mudiadau gwirfoddol neu rhwng y sector gwirfoddol ac eraill.

Enghreifftiau o Swyddi a fyddai'n Gymwys i dderbyn Grant Rheoli:
Swyddog Addysg, Swyddog Prosiect, Swyddog Cyhoeddiadau, Rheolwr Safle, Swyddog Cymunedol, Rheolwr Contractau, Gweithiwr Ystâd, Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Swyddog Maes, Swyddog Gwybodaeth.
*Dylid cofio nad yw'r rhestr hon yn un gyflawn.

Enghreifftiau o Swyddi na fyddai'n Gymwys i dderbyn Grant Rheoli:
Swyddi sydd eisoes yn bodoli neu swyddi newydd i gyflawni gwaith craidd arferol y mudiad.

Cyfyngiadau ar y Grant
Mae grantiau rheoli fel rheol rhwng £3,000 a £12,000

A oes cyllid ar gael am fwy na blwyddyn?
Oes. Gellir cytuno i roi grant am hyd at chwe blynedd. Y patrwm fel arfer yw cyllid am dair blynedd, yna tair blynedd o gyllid sy'n lleihau'n raddol. Sylwer yn yr enghraifft isod bod 100% yn cynrychioli'r swm a ddyfarnwyd fel arian grant gan Amgylchedd Cymru, nid 100% o gostau'r prosiect.


Blwyddyn 1 - 3 100% Cyllid digyfnewid
Blwyddyn 4 75%* Cyllid sy'n lleihau'n raddol
Blwyddyn 5 50%*
Blwyddyn 6 25%*

* Canran y cyllid ar y lefel hon

Bydd prosiectau'n cael eu gwerthuso'n flynyddol. Gofynnir i rai sy'n derbyn grantiau wneud bid i adnewyddu'r grant bob blwyddyn. Mae'r prosiectau hefyd yn cael eu gwerthuso'n llawn ar ôl tair a chwe blynedd. Mae ennill cyllid sy'n lleihau'n raddol yn dibynnu ar werthusiad ffafriol ar ddiwedd cyfnod y cyllid digyfnewid.