Grantiau Prosiect

Mae cyllid grantiau prosiect yn gallu cyfrannu at gostau deunyddiau a nwyddau traul y prosiect, offer llaw, dillad diogelwch, costau cyhoeddi ac argraffu, llogi cyfarpar, costau contractwyr lle bo cyfiawnhad drostynt, treuliau gwirfoddolwyr a chostau trafnidiaeth, ayb.

Gofynion Grantiau Prosiect
• Rhaid i'r prosiectau fod wedi cofrestru ag Amgylchedd Cymru.
• Rhaid i o leiaf 25% o'r costau gael eu cwrdd o ffynonellau nad ydynt yn deillio o Lywodraeth y Cynulliad;
• Rhaid i fudiadau sy'n ymgeisio am arian grant fod yn gyrff cyfansoddiadol, elusennol neu ddi-elw;
• Rhaid i brosiectau lle bwriedir gwneud gwaith ar neu welliannau i dir fod â chytundeb addas â pherchennog y tir, a rhaid darparu mynediad rhesymol i'r cyhoedd i safle'r prosiect. (Rhoddir mwy o wybodaeth am gytundebau tir ar ddiwedd yr adran hon).

Ffactorau o Blaid Cais am Grant Prosiect
Bydd gan eich cais am grant well siawns o lwyddo os yw'n gallu dangos:
• Ei fod yn cynnig ateb arloesol a chynaliadwy i broblemau presennol;
• Elfen gref o fewnbwn gwirfoddol;
• Bod y prosiect yn un parhaus yn hytrach nag un ‘unwaith yn unig';
• Y gellir diogelu a chynnal allbwn y prosiect unwaith y daw'r prosiect i ben;
• Partneriaethau rhwng mudiadau gwirfoddol neu rhwng y sector gwirfoddol ac eraill

Costau anghymwys
• Gallwn ond cyllido hyd at £800 o werth eitem gyfalaf unigol sy'n costio mwy na £800 i gyd.
• Ni allwn gyllido prynu tir, prynu cerbydau na phrynu neu waith ar adeilad.

Cyfyngiadau ar y Grant
• Gallwn dalu grantiau prosiect hyd at £10,000

A oes cyllid ar gael am fwy na blwyddyn?
Oes. Fodd bynnag, bydd angen i ymgeiswyr wneud ceisiadau ar wahân am bob blwyddyn ariannol y bydd angen cymorth grant ar ei chyfer. Os yw prosiect yn bwriadu ymgeisio am gyllid pellach yn y blynyddoedd olynol, byddai Amgylchedd Cymru yn disgwyl gweld cynllun busnes neu strategaeth i ddangos hyn.

Arweiniad ar Gytundebau Tir
O ran cytundebau tir gan grwpiau, mae gan Amgylchedd Cymru y canllawiau canlynol:

Os bydd prosiect yn digwydd ar dir sy'n eiddo i rywun heblaw gr%3;p y prosiect, rhaid cael llythyr o gefnogaeth gan berchennog y tir yn cadarnhau ei fod yn cytuno i weithgareddau'r prosiect.

Os bydd y prosiect yn cynnwys gwneud newidiadau i'r tir, neu wariant cyfalaf o unrhyw fath - e.e. codi byrddau dehongli, creu llyn, plannu coed - yna byddwn yn disgwyl bod gan y gr%3;p naill ai brydles ar gyfer y tir neu gytundeb drwy drwydded â pherchennog y tir. Y rheswm dros hyn yw bod allbwn y prosiect yn cael ei ddiogelu ac nad oes unrhyw berygl y bydd yn cael ei roi yn y fantol.

Rydym yn cynghori grwpiau i lunio prydles neu gytundeb trwydded am o leiaf deng mlynedd neu am gyn hired â phosibl.

Os nad yw'n bosibl cytuno ar brydles neu drwydded ar gyfer y tir, yna, gan ddibynnu ar ba mor fawr yw'r prosiect, efallai y bydd Amgylchedd Cymru yn fodlon derbyn llythyr gan berchennog y tir yn nodi nad oes ganddo / ganddi unrhyw gynlluniau i ddatblygu'r tir na gweithredu unrhyw newid defnydd ar y tir a fyddai'n amharu ar allbwn y prosiect, am o leiaf deng mlynedd.

Os oes gan grwpiau:
• brydles gyda llai na deng mlynedd ar ôl;
• trwydded sy'n cael ei hadnewyddu'n flynyddol;
• unrhyw gytundeb tir arall gyda llai na deng mlynedd i fynd, neu sydd i bara'n amhenodol;

rhaid gofyn yn yr achosion hyn, hefyd, am lythyr gan berchennog y tir yn cadarnhau na fydd unrhyw fygythiad i allbwn y prosiect am ddeng mlynedd.