Grantiau Cymorth Hyfforddi

Nod Grantiau Cymorth Hyfforddi yw cefnogi hyfforddiant staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio i hyrwyddo datblygu cynaliadwy a'r amgylchedd.

Lle bynnag y bo hynny'n bosibl, disgwylir i'r rhai a gefnogir ar gyrsiau hyfforddi ledaenu unrhyw wybodaeth neu sgiliau a ddysgwyd o fewn eu mudiad, er mwyn sicrhau bod y grant yn cael yr effaith fwyaf.

I gymhwyso
• Rhaid i geisiadau ymwneud â phrosiect gan gr%3;p sydd wedi cofrestru ag Amgylchedd Cymru;
• Mae costau cymwys yn cynnwys teithio, cynhaliaeth a ffioedd cyrsiau neu ddigwyddiadau a gynhelir gan fudiadau trydydd parti;
• O bryd i'w gilydd, gallwn gynnig grantiau i helpu gr%3;p i drefnu ei gwrs hyfforddi ei hun (drwy gontractio hyfforddwr allanol), os gellir profi angen.

Costau anghymwys
• Cyrsiau sy'n cael eu cynnal ‘yn fewnol' gan staff y mudiad ei hun;
• Costau'n gysylltiedig â digwyddiadau neu gynadleddau rheolaidd, a fyddai'n cael eu hystyried i fod yn rhan o waith arferol y mudiad;
• Ni fydd Amgylchedd Cymru fel rheol yn cefnogi sawl aelod o staff a / neu wirfoddolwyr o'r un mudiad i fynychu'r un digwyddiad, oni bai y gellir profi angen arbennig;
• Ni all Amgylchedd Cymru gefnogi unigolion i ennill cymwysterau academaidd.

Cyfyngiadau ar y Grant
• Gall y Grant Cymorth Hyfforddi fod yn uchafswm o £400