Grantiau Cyn-Brosiect
Nod Grantiau Cyn-Brosiect yw cyfrannu at gostau llogi arbenigwyr ac ymgynghorwyr i gyflawni astudiaethau neu werthusiadau a fydd yn arwain at brosiect ymarferol sy'n cwrdd ag amcanion Amgylchedd Cymru. Rhaid cyflwyno copi o adroddiad unrhyw astudiaeth o'r fath i Amgylchedd Cymru.
I gymhwyso
• I fod yn gymwys i dderbyn grant cyn-brosiect, rhaid
i grwpiau fod â chyfansoddiad;
• Gall y grant gyfrannu at amrywiaeth o astudiaethau cyn-brosiect, gan
gynnwys astudiaethau ymarferoldeb, astudiaethau dylunio, arolygon ecolegol, gwerthusiadau cymunedol a chynlluniau
busnes;
• Rhaid i'r gwaith gael ei gyflawni gan arbenigwyr neu ymgynghorwyr allanol.
Costau
anghymwys
• Ni roddir cyllid tuag at astudiaethau academaidd neu ymarferion theoretig, na lle
bwriedir cyflawni'r astudiaeth yn ‘fewnol', e.e. gan staff sydd eisoes yn cael eu cyflogi gan y mudiad sy'n
gwneud y cais.
Gofynion y Grant
• Rhaid i o leiaf 25% o'r costau gael eu cwrdd o
ffynonellau nad ydynt yn deillio o Lywodraeth y Cynulliad;
Cyfyngiadau ar y Grant
•
Gall grantiau cyn-brosiect fod hyd at uchafswm o £4,000

