Grantiau Cychwyn
Nod grantiau cychwyn yw cyfrannu at gostau cychwyn grwpiau newydd, lle mae amcanion y grwp yn ymwneud â gweithredu tymor hir yn hytrach na chwblhau prosiect ‘unwaith yn unig'.
Mae'r grant cychwyn yn helpu i dalu costau'n ymwneud â sefydlu grwpiau gwirfoddol neu gymunedol newydd. Gall y rhain gynnwys llogi adeilad, cyfleusterau neu gyfarpar, prynu eitemau cyfarpar bach ac offer llaw, dillad diogelwch, costau cyhoeddusrwydd neu argraffu, hyfforddiant, yswiriant a chostau aelodaeth gyswllt.
I gymhwyso
• I
fod yn gymwys am Grant Cychwyn, dylai grwpiau fel arfer fod wedi sefydlu ers llai na blwyddyn.
• Rhaid cael
cyfrif banc yn enw'r grwp.
Costau anghymwys
• Gallwn ond cyllido hyd at
£800 o werth eitem gyfalaf unigol sy'n costio mwy na £800 i gyd.
• Ni allwn gyllido prynu tir,
prynu cerbydau na phrynu neu waith ar adeilad
Gofynion y Grant
• Rhaid i o leiaf
25% o'r costau gael eu cwrdd o ffynonellau nad ydynt yn deillio o Lywodraeth y Cynulliad;
Cyfyngiadau
ar y Grant
• Gall grantiau cychwyn fod hyd at uchafswm o £1,000.

