Y Cynllun Grant Cefnogi Byw Cynaliadwy: Beth mae’n ei olygu?

Mae pawb yn gwybod bod angen newid ein ffordd o fyw yng ngoleuni’r newid yn yr hinsawdd, ond mae llawer o bethau yn ein hatal rhag gwneud y newidiadau rheini.  Hyd yn oed ar ôl ymgyrchoedd gwybodaeth mawr gan y llywodraeth a’r cyfryngau mae bwlch mawr o hyd rhwng gwybodaeth pobl am newid yn yr hinsawdd a’u gweithredoedd. 

Un ffordd o geisio cau’r bwlch hwn yw edrych ar pam fod pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd penodol a beth sy’n eu hatal rhag newid.  Mae’r fethodoleg hon eisoes yn brofedig ym maes iechyd lle mae newidiadau pwysig mewn ymddygiad – fel arferion yn ymwneud ag ysmygu ac yfed a gyrru – wedi digwydd.  Mae llawer bellach yn credu bod angen i ni ddilyn yr esiampl hon a  defnyddio’r un dulliau i newid agweddau pobl tuag at fyw’n gynaliadwy.  

Er enghraifft, gŵyr pawb fod beicio yn well i’r amgylchedd, iechyd personol a ffitrwydd na gyrru, ac yn aml mae’n well i’r boced hefyd.  Felly pam nad oes mwy ohonom yn defnyddio ein beiciau?  Nid oherwydd bod diffyg gwybodaeth am fanteision beicio – mae ffactorau eraill hefyd a bydd y rhain yn wahanol ar gyfer gwahanol bobl. 

Gallai’r rhain gynnwys 

Nid wy’n teimlo’n ddiogel

Mae angen hyfforddiant arnaf

Dwi ddim yn berchen ar feic       

Rwy’n byw yn rhy bell

Mae pawb arall yn gyrru             

Mae’r car yn gynt

Os byddaf yn beicio i’r gwaith bydd yn rhaid i mi gael cawod wedi cyrraedd

Os byddaf yn gyrru gallaf stopio ar y ffordd adref i siopa 

A mwy. 

Byddai prosiect sy’n canolbwyntio ar newid ymddygiad – yn hytrach na ddim ond codi ymwybyddiaeth – yn dod o hyd i’r rhesymau hyn ac yn ceisio mynd i’r afael â hwy yn y ffordd fwyaf effeithiol.  Gallai hyn ddigwydd drwy ddarparu hyfforddiant neu gynnig llogi beiciau a gymorthdelir neu drwy ofyn i gyflogwyr osod cawodydd neu hyd yn oed cymharu amseroedd teithio ar feic a theithio mewn car ar lwybrau penodol.  Efallai y byddai ceisio gwneud beicio yn ffordd ‘cwl’ o deithio yn ffordd effeithiol o newid ymddygiad. 

Y peth pwysig er hynny yw bod y dull newid ymddygiad yn dibynnu ar ymgysylltu â phobl ac edrych ar y rhwystrau at newid, ac yna darparu’r wybodaeth a’r dulliau cywir i’w lleihau.  Nid yw’n mynd rhagddo gyda syniad sythweledol e.e. nid yw pobl yn beicio oherwydd nad oes digon o lonydd beicio.  Os byddai hyn yn wir, efallai y byddech yn gwario arian ar ateb nad yw’n berthnasol i’r bobl o’ch cwmpas ac felly nad yw’n mynd i sicrhau newid mewn ymddygiad.   

Mae nifer o theorïau ynglŷn â pham bod pobl yn newid eu hymddygiad ond mae ymchwil cymdeithasol wedi nodi nifer o ffactorau sy’n gyffredin ymysg prosiectau newid ymddygiad llwyddiannus.  Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol: 

1.         Mae pobl yn fwy tebygol o newid eu hymddygiad os ydynt yn gweld pobl eraill yn gwneud hynny. 

2.         Mae pobl yn fwy tebygol o newid eu hymddygiad - a chadw’r ymddygiad hwnnw - os ydynt wedi gwneud cytundeb neu addewid cyhoeddus, neu os oes ganddynt gefnogaeth gan gyfoedion. 

3.         Mae gwahanol negeseuon yn gweithio ar gyfer gwahanol bobl.  Nid oes un ateb i bawb. 

4.         Mae gan brosiectau sydd wedi llwyddo i newid ymddygiad ddealltwriaeth dda o’u cynulleidfa darged a hygrededd - mae pobl yn fwy tebygol o newid ymddygiad os cânt eu hannog i wneud hynny gan rywun y meant yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddynt. 

5.         Bydd treulio amser ar ddylunio prosiect, a datblygu profion a dulliau gwerthuso yn cadw’r prosiect ar y trywydd cywir, a helpu i sicrhau’r newid mewn ymddygiad rydych ei eisiau. 

Mae’r cynllun grant Cefnogi Byw Cynaliadwy hwn yn seiliedig ar y dull newid ymddygiad hwn.  Y rheswm am hyn yw gan fod newid yn yr hinsawdd yn fater mor allweddol ni allwn fforddio buddsoddi mewn atebion nad ydynt yn mynd i weithio.  Mae angen i ni wybod bod syniadau prosiect wedi cael eu hymchwilio’n ddigonol a bod y gweithgareddau arfaethedig yn berthnasol i’r gynulleidfa darged a bod llwyddiant yn debygol iawn. Gall hyn fod yn seiliedig ar dystiolaeth o’ch ymchwil eich hun neu drwy ddysgu o brofiadau eraill. 

Mae mwy nag un dull newid ymddygiad yn bodoli.  Mae nifer o fodelau neu ddulliau y gellir eu defnyddio a bydd y cynllun grant hwn yn eich cefnogi i ddysgu mwy amdanynt a sut i’w defnyddio.  Pa bynnag ddull y dewiswch, mae’n rhaid i’ch prosiect allu dangos y bydd yn cyfrannu at nodau’r cynllun o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu helpu cymunedau i geisio gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd. 

Ni fyddwch ar eich pen eich hun, bydd gennych gefnogaeth Swyddog Datblygu Amgylchedd Cymru i’ch arwain drwy’r cynllun a helpu i ddatblygu syniadau prosiect.  Gallwn hefyd eich cyfeirio at yr adnoddau perthnasol ac astudiaethau achos ar brosiectau newid ymddygiad llwyddiannus. 

Mae’r cynllun yn dilyn fframwaith i gefnogi grwpiau i ymchwilio’n briodol i syniadau prosiect ac yna eu treialu i weld a yw eu dull dewisol yn llwyddiannus.  Os yw’n llwyddiannus, mae cam pellach ar gael sy’n galluogi grwpiau i gyflwyno prosiectau ar raddfa ehangach neu i gynulleidfaoedd newydd. 

Dilynwch y cysylltau yn yr ymyl chwith am wybodaeth bellach ar y Cynllun Grant Cefnogi Byw'nGynaliadwy  

Os hoffwch ffurflen ymholiad plis clicwch fan hyn info@environment-wales.org unwaith eich bod wedi edrych i weld os yw eich prosiect yn gymwys