Arian Grant - Gwybodaeth Gyffredinol

Wrth ystyried ceisiadau am gymorth grant, bydd Amgylchedd Cymru yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau:

  • sy'n gweithio mewn partneriaeth â mudiadau eraill;
  • sy'n arloesol neu'n gydweithredol, ac y gellid eu defnyddio fel model mewn mannau eraill;
  • sy'n annog ac yn cynorthwyo cymunedau i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy yn lleol;
  • lle byddai grant yn gwella ansawdd y gwaith ac yn rhoi mwy o fudd i'r amgylchedd;
  • lle gallai grant gynyddu'r potensial i godi incwm drwy'r prosiect.

Rhaid cynnwys mewnbwn gan wirfoddolwyr ym mhob cais a rhaid gallu dangos yn glir sut y mae'r prosiect yn cwrdd ag un neu ragor o'r pedwar prif amcan gan Amgylchedd Cymru ar dudalen 1.

Gofynion Arian Cyfatebol

Gall Amgylchedd Cymru gyllido hyd at 75% o gostau'r prosiect. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid dod o hyd i o leiaf 25% o'r costau o ffynonellau eraill. Mae Amgylchedd Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw mewnbwn gan wirfoddolwyr i brosiectau ac yn cofnodi hyn fel pe bai ganddo werth ariannol (mae cyfraniad gwirfoddolwyr ar hyn o bryd yn cael ei gostio ar £6.50 yr awr). Os oes digon o amser gwirfoddol yn cael ei dreulio ar brosiect arfaethedig, gall grwpiau llai ddefnyddio'r cyfraniad hwn i gyfrannu at yr arian cyfatebol o 25%. Disgwylir i grwpiau mwy gwrdd ag o leiaf rhywfaint o'r gofyniad hwn o ffynonellau eraill, a gallai hyn gynnwys cyllidwyr eraill, adnoddau'r grwp ei hun, neu drwy gynhyrchu incwm. Mae nwyddau / gwasanaethau sy'n cael eu cyfrannu hefyd yn cyfrif fel arian cyfatebol.

Cyfyngu ar gyllid o Ffynonellau Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae Amgylchedd Cymru yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y Cynulliad, sy'n awyddus i annog prosiectau i ddod o hyd i gymorth o amrediad o ffynonellau eraill. Mae angen i grwpiau ddangos, felly, nad yw cyfanswm y cyllid ar gyfer eu prosiect sy'n dod o ffynonellau Llywodraeth y Cynulliad yn fwy na 75% o'r holl gostau.

Mae mudiadau eraill sy'n darparu grantiau ac sy'n deillio o Lywodraeth y Cynulliad yn cynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Bwrdd Croeso, a rhai grantiau gan CGGC fel y gronfa ‘Gwirfoddoli yng Nghymru'.

Eitemau cyfalaf

Er mwyn cydymffurfio â gofynion archwilio Llywodraeth y Cynulliad, bydd manylion unrhyw eitemau cyfalaf sy'n werth dros hyn a hyn a brynir â'r arian grant gan Amgylchedd Cymru yn cael eu cofrestru. Ar hyn o bryd, y gwerth trothwy yw £1,000.

Amserlen y grantiau

Rhaid gwario'r arian grant o fewn y flwyddyn ariannol y rhoddir y grant. Rhaid i unrhyw arian dros ben sydd heb ei wario ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gael ei adennill a'i ddychwelyd at Lywodraeth y Cynulliad. Bydd y sector gwirfoddol yna'n colli'r arian hwn. Os oes perygl na fyddwch yn gallu gwario eich grant i gyd cyn y daw'r flwyddyn ariannol i ben, RHAID ichi roi gwybod i'ch Swyddog Datblygu ar unwaith.

Y broses o wneud cais

Os ydych eisiau gwneud cais am gyllid gan Amgylchedd Cymru, bydd eich Swyddog Datblygu yn hapus i drafod eich syniadau gyda chi ac i roi arweiniad ynghyd ag unrhyw ffurflenni perthnasol ichi. Cofiwch neilltuo digon amser i drafod, ac efallai i ddiwygio, eich cais cyn ei gyflwyno.

Ni allwn ystyried unrhyw gais hyd nes y bydd wedi'i adlofnodi gan Swyddog Datblygu a hyd nes y bydd wedi'i dderbyn gan y swyddfa yng Nghaerdydd ynghyd â'r holl wybodaeth gynorthwyol a ofynnwyd amdani.

Grantiau Cymorth Hyfforddi
Mae ceisiadau am Grantiau Cymorth Hyfforddi yn cael eu hystyried gan Gydlynydd Amgylchedd Cymru. Gall ymgeiswyr ddisgwyl penderfyniad ymhen ugain diwrnod gwaith.

Grantiau Prosiect a Chyn-Brosiect
Mae ceisiadau am Grantiau Prosiect a Chyn-Brosiect yn cael eu hystyried gan Banel Cynghori ar Grantiau Amgylchedd Cymru. Mae'r Panel yn cyfarfod tua phob pum wythnos hyd nes y bydd yr arian wedi mynd i gyd (mae blwyddyn grant Amgylchedd Cymru yn dechrau yn Ebrill, cynhelir y cyfarfod cyntaf o'r Panel ym mis Mawrth, ac mae'r arian yn aml wedi'i ddyrannu i gyd erbyn mis Rhagfyr pob blwyddyn). Gellir cyflwyno ceisiadau unrhyw adeg ond rhaid iddynt ddod i law o leiaf tair wythnos cyn y cyfarfod o'r Panel a fydd yn eu hystyried. Gall eich Swyddog Datblygu gadarnhau'r dyddiadau cau perthnasol.

Gall y Panel gymeradwyo, gwrthod neu ohirio ceisiadau. Os yw cais yn cael ei ohirio - er enghraifft os gofynnwyd am ragor o wybodaeth - bydd yn cael ei drafod eto unwaith y bydd yr holl fanylion angenrheidiol wedi dod i law, a phenderfyniad yna'n cael ei wneud. Gellir hefyd ‘cymeradwyo cais yn amodol' - er enghraifft os yw gwybodaeth hanfodol, fel caniatâd cynllunio, wedi'i haddo ond heb ei darparu eto. Yn yr achosion hyn, gall y Cydlynydd benderfynu a ydyw'r amod wedi'i gwrdd ac a ddylid awdurdodi'r grant - nid oes angen i'r cais aros tan y cyfarfod nesaf o'r Panel.

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod beth yw penderfyniad y Panel o fewn pum diwrnod gwaith i gyfarfod y Panel fel arfer.

Grantiau Rheoli
Mae ceisiadau am Grantiau Rheoli'n cael eu hystyried yn flynyddol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Hydref pob blwyddyn, a rhoddir gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus ar ddechrau mis Chwefror y flwyddyn ganlynol, cyn derbyn cyllid ym mis Ebrill.

Talu Grantiau

Mae pob un o grantiau Amgylchedd Cymru yn ddarostyngedig i delerau ac amodau CGGC, ac mae'r rhain ar gael o Swyddfa Amgylchedd Cymru. Fel arfer, telir Grantiau Prosiect, Cyn-Brosiect a Rheoli yn chwarterol ymlaen llaw. Telir Grantiau Hyfforddi fel ôl-daliadau bob tro. Gwneir y taliadau drwy'r system BACS.

Adrodd ar Waith sydd wedi derbyn Arian Grant

Fel rhan o'r cais am grant, mae prosiectau'n cyflwyno targedau y maen nhw'n gobeithio eu cyrraedd yn ystod y prosiect. Mae'r targedau'n mesur:

• Nifer y gwirfoddolwyr:
• Nifer yr wythnosau gwirfoddoli: (cyfrifir wythnos wirfoddoli fel deugain o oriau gwirfoddoli)
• Nifer y swyddi sy'n cael eu creu neu eu diogelu:
• Cyllid arall y mae'r prosiect yn bwriadu ei ddenu: (ar ffurf nwyddau / gwasanaethau sy'n cael eu cyfrannu neu o ffynonellau cyhoeddus neu breifat)

Bydd cynnydd yn erbyn y targedau hyn yn cael ei fesur ddwywaith y flwyddyn gan eich Swyddog Datblygu. Gofynnir hefyd i rai sy'n derbyn grantiau lofnodi ‘Ffurflenni Gwyrdd a Glas' - Tystysgrifau Gwariant a Thargedau - ddwywaith y flwyddyn. Mae'r ffurflen Werdd yn gofyn i brosiectau gadarnhau bod y grant yn cael ei wario'n unol â'r cais gwreiddiol, tra bo'r ffurflen Las yn mesur cynnydd gyda'r targedau.

Dalier sylw: Ni ofynnir am dargedau ar gyfer Cymorth Hyfforddi, felly nid ydynt ychwaith yn cael eu monitro.