Arian Grant

Mae gan Amgylchedd Cymru bump o ffrydiau grant, a ddyfeisiwyd i helpu prosiectau ym mhob cam o'u datblygiad.

Mae dwy o'r ffrydiau hyn ar gael cyn cofrestru, e.e. i brosiectau nad ydynt efallai yn ddigon sefydlog eto i gwblhau'r broses gofrestru. Y rhain yw:

Grantiau Cychwyn: Mae'r rhain yn helpu gyda chostau sefydlu grwpiau gwirfoddol neu gymunedol newydd, fel llogi adeilad, cyhoeddusrwydd neu argraffu, hyfforddiant, yswiriant, costau aelodaeth gyswllt, ac yn y blaen. Uchafswm y grant hwn yw £1,000.

Grantiau Cyn-brosiect: Mae'r rhain yn helpu i dalu am gostau unrhyw astudiaethau neu arolygon sydd angen eu cyflawni cyn y gall y prosiect ddechrau; er enghraifft astudiaethau ymarferoldeb, cynlluniau busnes, arolygon ecolegol neu werthusiadau cymunedol. Rhaid i'r astudiaethau gael eu cyflawni gan drydydd parti. Uchafswm y grant hwn yw £4,000.

Gyda'r ddau grant uchod, rhoddir yr arian ond os yw gweithgareddau'r prosiect arfaethedig yn cwrdd â'n hamcanion a rydym yn gobeithio y byddai unrhyw brosiect a fydd yn elwa o'r grantiau hyn yn cofrestru ag Amgylchedd Cymru nes ymlaen.

Mae tair o ffrydiau grant eraill gan Amgylchedd Cymru, i brosiectau cofrestredig yn unig.

Grantiau Cymorth Hyfforddiant: Mae'r grantiau hyn ar gael i helpu gyda chostau cyrsiau a chynadleddau hyfforddi. Mae'r costau cymwys yn cynnwys costau teithio, cynhaliaeth a ffioedd cyrsiau. Uchafswm y grant hwn yw £400. Gellir cyflwyno ceisiadau unrhyw adeg.

Grantiau Prosiect: Mae'r grantiau hyn yn helpu i dalu am ddeunyddiau a chyfarpar y prosiect. Uchafswm y grant hwn yw £10,000. Gellir cyflwyno ceisiadau unrhyw adeg.

Grantiau Rheoli: Mae'r grantiau hyn yn helpu i dalu am swyddi newydd ar gyfer prosiectau cofrestredig. Rhaid i'r swyddi fod yn benodol i brosiect ac nid yn rhan o weithgareddau craidd arferol y mudiad. Mae'r grantiau hyn yn amrywio rhwng £1,000 a £12,000. Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 31 Hydref ar gyfer grantiau'n dechrau ar 1 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Gallwn gynnig cyllid am hyd at uchafswm o chwe blynedd.

Byddem yn eich annog i drafod eich syniadau neu eich prosiect yn ddigon buan gyda'ch Swyddog Datblygu. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am unrhyw un o'r grantiau uchod, gall y Swyddog Datblygu roi arweiniad a'r ffurflenni angenrheidiol ichi.