Mudiadau cymwys

Diffiniad o gorff gwirfoddol

I fod yn gymwys i wneud cais am grant dan Amgylchedd Cymru rhaid i fudiad gwirfoddol feddu ar gyfansoddiad a bodloni'r meini prawf canlynol:

• Annibynnol

Mae'n rhaid i fudiad fod yn gyfansoddiadol annibynnol a heb fod o dan reolaeth mudiad sy'n cynhyrchu elw na'r wladwriaeth. Mae Amgylchedd Cymru yn cydnabod bod mudiad yn annibynnol ar y wladwriaeth pan fo mwyafrif o gynrychiolwyr, penodedigion a chyrff anstatudol ar ei fwrdd cyfarwyddwyr a mwyafrif o aelodau anstatudol.

• Hunan Lywodraethol

Mae'n rhaid i fudiad gael prosesau penderfynu mewnol ei hun.

• Heb fod yn dosbarthu elw ac heb fod yn ymwneud â busnes yn ei hanfod

Ni ddylai'r mudiad wneud unrhyw daliadau (ac eithrio ar gyfer mân dreuliau rhesymol neu daliadau eraill a ganiateir gan y ddogfen lywodraethu e.e. ar gyfer grantiau neu wasanaethau proffesiynol achlysurol) i aelodau nac i ymddiriedolwyr.

• Gwirfoddol

Mae'n rhaid i fudiad elwa ar elfen sylweddol o ddyngarwch (h.y. rhoddion ymarferol neu ar ffurf amser, gan gynnwys gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sy'n gweithio'n ddi-dâl).

• Lles y cyhoedd

Mae Amgylchedd Cymru yn disgwyl i unrhyw fudiad gwirfoddol ddangos bod ei amcanion a'i weithgareddau o fudd i'r cyhoedd yn gyffredinol; a/neu ei fod yn sicrhau bod ei fuddiannau ar gael i grwp mor eang â phosibl o bobl o fewn y cwmpas a ddiffinnir gan ei amcanion; ac/neu ei fod yn gweithredu mewn ffordd sy'n agored a chynhwysol yn hytrach na mewn modd elitaidd ac anghynhwysol. Os oes dogfen lywodraethol yn bodoli, dylai gynnwys cymal sy'n datgan pe digwydd i'r mudiad gael ei ddiddymu, y byddai'r asedau sy'n weddill yn cael eu dosbarthu i fudiad(au) gwirfoddol tebyg.


Mudiadau cymwys eraill

Gallai mudiadau cymwys eraill, sydd â chyfansoddiad cyfreithiol ac sy'n darparu budd cymdeithasol/cymunedol ehangach, gynnwys (yn amodol ar archwilio'r dogfennau llywodraethu):

• mentrau cydweithredol a busnesau cymunedol
• y mudiad tai gwirfoddol
• ymddiriedolaethau elusennol di-aelodaeth
• grwpiau hunan-gymorth/cyd-gymorth
• Mudiadau cymunedol a lleol, cymdeithasau cymunedol, neuaddau pentref ayb
• Elusennau hyfforddi
• Grwpiau cymorth i fenywod
• Cymdeithasau diwydiannol a darbodus elusennol
• Grwpiau chwaraeon gyda budd cymdeithasol/cymunedol
• Mudiadau crefyddol gyda budd cymdeithasol


Wedi'u heithrio'n benodol y mae (yn amodol ar archwilio'r ddogfen lywodraethu):

• Pleidiau gwleidyddol
• Prifysgolion
• Sefydliadau addysg bellach
• Ysgolion a gynhelir â grant, annibynnol elusennol
• Ysgolion gwirfoddol noddedig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
• CMHau
• Undebau llafur
• Clybiau a chymdeithasau chwaraeon nad yw er budd y cyhoedd
• Cymdeithasau busnes ac asiantaethau menter lleol
• Cymdeithasau proffesiynol
• Ymddiriedolaethau'r GIG
• Llawer o'r prif amgueddfeydd
• Cyrff cyhoeddus anadrannol a chwangos
• Cyrff a grëir yn y lle cyntaf at bwrpas addoliad crefyddol a'u cefnogaeth