Hyfforddiant
Ynghyd a chynnig Grantiau Cymorth Hyfforddiant i brosiectau cofrestredig sydd yn dymuno ymgymryd â hyfforddiant allanol, o bryd i'w gilydd, bydd Amgylchedd Cymru yn darparu sesiynau hyfforddiant rhad ei hun.
Bob blwyddyn, cynhelir digwyddiad rhwydweithio a hyfforddiant diwrnod cyfan, o dan yr enw Environet. Mae'n gyfle i brosiectau cofrestredig rannu profiadau, cyfnewid sgiliau a gwybodaeth drwy arddangosfeydd, gweithdai a thrafodaethau.

