Cofrestri


Mae proses cofrestri Amgylchedd Cymru yn fodd o asesu cryfderau, gallu ac arferion cynaliadwy'r grwpiau sydd yn dod atom am gymorth.


Mae'n fodd o edrych ar yr amcanion cyffredinol, gweithgareddau a sefydliad prosiect ac asesu pa un ai a oes ganddo'r gallu i gyfrannu at amcanion Amgylchedd Cymru a rheoli cyfrifoldebau ar gyfer gwirfoddolwyr, cyllido ac o bosib staff.

Rhaid i brosiectau gael eu cofrestri gan Amgylchedd Cymru cyn y gallant gael mynediad i'n cynlluniau grant Prosiect, Rheoli a Chymorth Hyfforddiant.


Unwaith bod prosiect wedi gwneud cais i gael ei gofrestri, a bod y cais wedi ei gymeradwyo, gall Amgylchedd Cymru gynnig cefnogaeth Swyddog Datblygu tra bod y prosiect yn bodoli. Mae buddion eraill o gofrestri gydag amgylchedd Cymru yn cynnwys:

  • Mynediad i Swyddog Datblygu ymroddedig a phrofiad cyfunol i holl Dîm Datblygu Amgylchedd Cymru;
  • Y cyfle i ymuno a rhwydwaith o dros 300 o brosiectau cofrestredig ar draws Cymru ac i rannu gwybodaeth, syniadau ac arfer gorau;
  • Cydnabyddiaeth allanol bod eich prosiect yn cwrdd â chyrchnodau amgylcheddol;
  • Gwahoddiad i gyfranogi yn yr Environet Amgylchedd Cymru flynyddol; digwyddiad hyfforddiant / rhwydweithio rhad ac am ddim ar gyfer ein holl brosiectau cofrestredig;
  • Taflenni newyddion rheolaidd a chysylltiadau o'n safle gwe i'ch prosiect;
  • Cymhwyster i wneud cais am grantiau Amgylchedd Cymru.

 

Beth yw'r camau nesaf?

Os oes gennych brosiect sy’n ateb amcanion Amgylchedd Cymru ar yr hoffech chi gofrestru gyda ni, ffoniwch 029 2043 1727/1769 neu anfonwch e-bost yn nodi manylion eich prosiect at info@environment-wales.org. Yn eich e-bost, rhowch fanylion cryno gweithgareddau eich grŵp a’i statws cyfreithiol (h.y. ai elusen, cwmni cyfyngedig, grŵp cymunedol ayb) ynghyd â’ch cyfeiriad a’ch manylion cysylltu. Yna, bydd Swyddog Datblygu’n cysylltu â chi i drafod mwy ar eich cais.