Cymorth


Cred Amgylchedd Cymru mai'r cymorth gorau y mae'n gallu ei gynnig i brosiectau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yw cymorth cyswllt hir dymor gyda Swyddog Datblygu ymroddedig.

Gall Swyddogion Datblygu gynnig cyngor a chymorth ym mhob cyfnod o gyflwyniad y prosiect o gychwyn y prosiect i helpu grwp trwy dyfiant trosiannol neu gynghori ar geisiadau ariannu cymhleth. Mae gan bob Swyddog Datblygu mandad Cymru gyfan, gan alluogi'r potensial rhwydwaith mwyaf ar gyfer grwpiau a phrosiectau tebyg o fewn y rhwydwaith.

Ynghyd a darparu cyngor a chymorth, mae Swyddogion Datblygu hefyd yn tywys grwpiau trwy broses cofrestri Amgylchedd Cymru, sydd yn eu galluogi, unwaith eu bod wedi cofrestru, i wneud cais am grantiau Amgylchedd Cymru. Ar gyfer prosiectau sydd yn eu babandod, na sydd eto yn barod i'w cofrestri, mae cymorth Cychwynnol a grantiau Cyn-prosiect ar gael.

Pwy a beth sy'n gymwys i dderbyn cymorth gan Amgylchedd Cymru?

Mae Amgylchedd Cymru yn cefnogi mudiadau gwirfoddol. os nad ydych yn sicr beth yw diffiniad mudiad gwirfoddol, mae modd darllen mwy yma.

Rydym yn cynnig cymorth i brosiectau yn hytrach na grwpiau, a rhaid iddynt fod yn weithgareddau penodol yn hytrach na'n waith craidd cyffredinol.

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth gan Amgylchedd Cymru, rhaid i brosiectau gwrdd ag un neu ragor o'r amcanion canlynol:

Gwella'r Amgylchedd: Gwneud gwelliannau cynaliadwy i'r amgylchedd yng Nghymru drwy brosiectau ymarferol;
Addysg ac Ymwybyddiaeth: Gwella dealltwriaeth o ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd drwy wasanaethau gwybodaeth, addysg a chynghori;
Mentrau Amgylcheddol: Helpu i greu prosiectau amgylcheddol newydd sydd hefyd yn rhoi cyfle i gymunedau a mudiadau gwirfoddol gyfrannu at gwrdd eu hanghenion cymdeithasol ac economaidd;
Hyfforddiant a Gwirfoddolwyr: Cefnogi a hyfforddi staff a gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau uchod.

Rhaid i brosiectau gwblhau proses COFRESTRU Amgylchedd Cymru er mwyn sicrhau cymorth hir dymor. Darllenwch mwy am gofrestri gan clicio ar y dolen i'r chwith