Mae Amgylchedd Cymru yn cyflwyno’r digwyddiad hyfforddi a rhwydweithio blynyddol – Environet

Beth yw Environet?

Digwyddiad a gynhelir gan Amgylchedd Cymru yw Environet, a’i fwriad yw datblygu prosiectau amgylcheddol cymunedol sy’n cael eu cefnogi gan y fenter. Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i brosiectau cofrestredig rwydweithio gyda grwpiau eraill o’r un anian ac i gael hyfforddiant perthnasol, ac mae'n rhoi llwyfan i hysbysu ac ysbrydoli eraill.  

Beth mae’n ei gynnig?

Mae’r digwyddiad hyfforddi a rhwydweithio hwn yn cynnig:
Arddangosion rhyngweithiol a llawn gwybodaeth;
Cyflwyniadau gan brosiectau cofrestredig sy’n sicr o’ch ysbrydoli;
Cyfle i rwydweithio;
Cyrsiau Hyfforddi Cyfredol, Addysgiadol a pherthnasol

Ynghlwm ceir gwybodaeth yn ymwneud â Environet, digwyddiad rhwydweithio a hyfforddi Amgylchedd Cymru a gynhaliwyd ym mis Medi 2011.

Environet 2011: Pecyn i gynrychiolwyr ar ôl y digwyddiad

Deunydd y cyflwyniadau:

*Canolfan Gymorth Ranbarthol Cymru (RSC)  – Estyn allan – Wynebu Facebook, Taclo Twitter

Marchnata eich mudiad – beth mae’n ei olygu?

Cyflwyniad i Farchnata Cymdeithasol


* Dim ond yn Saesneg y darperir y wybodaeth ar gyfer y gweithdy hwn.  Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am RSC ewch i http://www.rsc-wales.ac.uk