Beth yw Amgylchedd Cymru?

Partneriaeth o fudiadau yn y sector gwirfoddol yw Amgylchedd Cymru, wedi'i gyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ein nod yw cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy drwy gefnogi ac annog gwaith gwirfoddol i wella a gwarchod amgylchedd Cymru.

Ar ôl ei sefydlu ym 1992, mae Amgylchedd Cymru wedi tyfu o un flwyddyn i'r llall ac mae'r bartneriaeth wreiddiol wedi ehangu o 7 i 8 o fudiadau. WCVA yw Partner Gweinyddol y fenter. Nhw sy'n gyfrifol am ddarparu'r fframwaith gweinyddol ac ariannol ar gyfer Amgylchedd Cymru ac am gyflogi'r Tîm Gweinyddol.

Ceir hefyd 7 o Bartneriaid Gweithredol, sy'n cyflogi'r Tîm o Swyddogion Datblygu. Y rhain yw'r Gwarchodwyr Cefn Gwlad, Canolfan Gorllewin Cymru, Cylch, Groundwork Wales, Cadw Cymru'n Daclus, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru.

Gwaith y Tîm o Swyddogion Datblygu yw rhoi cyngor a chymorth i grwpiau cymunedol a gwirfoddol. Mae pob prosiect a gefnogir gan Amgylchedd Cymru yn derbyn Swyddog Datblygu dynodedig sy'n aros yn bwynt cyswllt parhaus.

Mae Amgylchedd Cymru hefyd yn darparu cyllid drwy bump o wahanol ffrydiau grant i gefnogi grwpiau gwirfoddol neu gymunedol sydd yn ymgymeriad prosectiau ymarferol ac yn hyrwyddo un neu mwy o'r amcanion canlynol.

  • Gwneud gwelliannau cynaliadwy i'r amgylchedd yng Nghymru drwy brosiectau ymarferol; 
  • Gwella dealltwriaeth o ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd drwy wasanaethau gwybodaeth, addysg a chynghori;
  • Helpu i greu prosiectau amgylcheddol newydd sydd hefyd yn rhoi cyfle i gymunedau a mudiadau gwirfoddol gyfrannu at gwrdd eu hanghenion cymdeithasol ac economaidd;
  • Cefnogi a hyfforddi staff a gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau uchod.